Cefnogaeth gyda dementia
Yn Effro, rydym ni’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia i fyw bywydau llawn boddhad yn seiliedig ar brofiadau sy’n deffro eu synhwyrau, a gweithgareddau sy’n tanio llawenydd go iawn.
Cefnogaeth a hyfforddiant dementia
Prosiect dementia Platfform yw Effro, ac mae’n darparu gweithgareddau grŵp a chefnogaeth unigol i bobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd â chyfleoedd hyfforddiant a mentora i’r rhai sy’n cynnig cefnogaeth a gofal i bobl sy’n byw gyda dementia.
Mae Effro yn deillio o ddull Platfform o ymdrin ag iechyd meddwl, sef dull wedi’i seilio ar yr egwyddor ein bod oll yn unigolion, a bod gan BOB UN ohonom gryfderau a galluoedd y gallwn eu defnyddio i greu newid cadarnhaol yn ein bywydau.
Ar gyfer byw’n dda gyda dementia
Mae llawer o elusennau a mudiadau dementia yn canolbwyntio dim ond ar anghenion ymarferol neu feddygol y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Yn Effro, credwn fod mwy y gellir ei wneud; bod cydnabod anghenion, hoffterau a natur unigol bob person yn creu cyfleoedd ar gyfer bywyd gwell.
Gyda’r dull hwn, rydym yn gweithio gyda phobl i archwilio’r pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, sy’n rhoi gwefr neu’n cynnau cyffro ynddyn nhw, ac sy’n ychwanegu at fyw yn llawen.
Mae’r gwaith a wnawn gyda phobl sy’n byw gyda dementia’n cynnwys sesiynau gweithgareddau mewn unrhyw leoliad preswyl, cefnogaeth unigol, cadw cysylltiad ac arweiniad, a syniadau a ffyrdd newydd i ailgynnau angerdd ac ysgogi atgofion cadarnhaol.
Ar gyfer y gefnogaeth a roddwch
Mae Effro’n cynnig hyfforddiant, arweiniad a chyngor ar gyfer unrhyw un sy’n darparu gofal i rywun sy’n byw gyda dementia.
Mae ein rhaglen gefnogaeth ar gyfer gofalwyr yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â’n gwasanaeth therapi siarad, Breathe, ac mae’n cynnig cyfuniad o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Mae hyfforddiant Effro, ar gyfer gofalwyr ac aelodau o’r teulu, yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy’n canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth mewn ffordd deimladwy, sy’n gwella bywydau.
Mae ein tîm hefyd yn gweithio fel gwirfoddolwyr i’r Alzheimer’s Society er mwyn cynnal sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia: digwyddiadau 1 awr o hyd sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch dementia.