Cwtsh
Canolfan gymorth therapiwtig sy’n ystyriol o drawma i oedolion Bae’r Gorllewin sy’n defnyddio sylweddau ac yn profi anawsterau gyda’u hiechyd meddwl yw Cwtsh.

Mae Cwtsh hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi’r gweithwyr proffesiynol o amgylch yr unigolion hyn i sicrhau eu bod yn meddwl ac yn ymateb mewn ffyrdd sy’n ystyriol o drawma, yn ogystal â’u cefnogi i leihau lefelau llosgi allan a blinder tosturi.
Ym Mae’r Gorllewin, canfuwyd fod llawer o unigolion sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol hefyd yn profi anawsterau gyda’u hiechyd meddwl, ac nid yw bob amser yn bosibl cael mynediad at gefnogaeth seicolegol ar gyfer hyn tra maen nhw’n dal i ddefnyddio sylweddau. Felly, cynigiodd Platfform ganolfan gymorth iechyd meddwl sy’n ystyriol o drawma i bobl gydag anghenion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar yr un pryd ledled Bae’r Gorllewin.
Mae cyd-gynhyrchu wedi bod wrth wraidd y gwasanaeth, o ddatblygu gwasanaethau hyd at roi’r ddarpariaeth gwasanaethau ar waith. Yn ystod y cyfnod cynllunio gwasanaeth, ymgynghorwyd â 15 o bobl â phrofiad personol i gael cipolwg ar yr hyn sydd ei angen arnynt gan wasanaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, a ble mae’r bylchau presennol yn y ddarpariaeth.
Siaradodd pobl am yr angen i’r gwasanaeth fod yn ddynol ac yn ystyriol o drawma. Mae hyn yn edrych fel gwasanaeth sy’n “dryloyw”, “real” a “chyson” o fewn ei ddull. Mae’n bwysig bod yr hyn rydym yn ei gynigion yn gyson, ac felly hefyd y gefnogaeth, ac mae’n bwysig ein bod yn ddibynadwy. Siaradodd pobl am yr angen i’r gwasanaeth ganolbwyntio ar berthnasoedd a chysylltiadau o fewn ac ar draws gwasanaethau. Mae angen bod yn hyblyg a deall y bydd pobl yn gallu cael mynediad at ein gwasanaeth i raddau mwy neu lai ar wahanol ddyddiau ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
O sgyrsiau gyda phobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o’r blaen, y flaenoriaeth i bobl ar eu taith adferiad yw creu cymuned ac amgylchedd lle mae pobl yn teimlo ymdeimlad o bwrpas, perthyn a chysylltiad. Mae cysylltu pobl â’r gymuned i’w helpu i deimlo eu bod yn perthyn, teimlo’n llai ynysig ac wedi’u stigmateiddio, a chael ymdeimlad o bwrpas yn rhywbeth y soniodd pawb amdano fel rhywbeth pwysig.
O ganlyniad, rydym wedi sefydlu sesiynau coffi galw heibio cymunedol, teithiau cerdded a sesiynau nofio gwyllt fel trefniant mynediad agored. Ar lefel gymunedol, mae hyn yn caniatáu cyfleoedd i gysylltu, adeiladu cymuned a chreu ymdeimlad o berthyn. I’r rhai sy’n dal i fod eisiau gwneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, rydym hefyd yn cynnig cwnsela a therapïau seicolegol ochr yn ochr â’n cynnig cymunedol.