Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Nid ydym erioed wedi cyflwyno ymateb i bwyllgor fel yr un hwn, mewn dros 30 mlynedd o ddarparu gwasanaethau yng Nghymru i bobl sy’n profi heriau iechyd meddwl, argyfwng tai neu ddigartrefedd. Mae’n bwysig i ni dystiolaethu poen y bobl rydym yn eu cefnogi, a’n cydweithwyr sy’n darparu’r gefnogaeth honno. Byddwn yn dod o hyd i’n gobaith yng Nghymru, gyda’n gilydd.

Mae’n amlwg i ni fod llawer o Aelodau ar draws y Senedd, yn mynd i fod yn teimlo’r un ymdeimlad o ofid am y gyllideb sydd ar y gorwel. Ddaeth neb i mewn i wleidyddiaeth, yn sicr nid yng Nghymru, i wylio ein gwasanaethau cyhoeddus yn chwalu.

Ar gyfer y gyllideb hon, rydym am i’r pwyllgor ddeall pa mor wahanol mae hyn yn teimlo. Rydym yn gwybod fod arian yn dynn. Mae gennym drugaredd/dosturi/biti dros bawb sy’n ymwneud â’r penderfyniadau anodd a heriol rhain. Ar yr un pryd, mae’n bwysig i ni dystiolaethu poen y bobl rydym yn eu cefnogi, a’n cydweithwyr sy’n darparu’r gefnogaeth honno.

Bydd y gyllideb hon, yn fwy nac amryw eraill, yn bygwth torri llawer o sefydliadau ar draws y trydydd sector. Mi fydd, heb unrhyw gynnydd mewn ariannu, yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau statudol sydd eisoes dan bwysau ac yn chwalu.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn