Ymateb Prosiect Power-Up Platfform i ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad: “a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?”
Rydym yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd gwella’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg a gofal plant.
Fodd bynnag, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn ailystyried rhai o’r dewisiadau er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddiwallu anghenion pobl ifanc anabl.

Mae Prosiect Power Up yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd gwella’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg a gofal plant. Mae’r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arwydd bod y mater hwn wedi’i gymryd o ddifri.
Fodd bynnag, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn ailystyried rhai o’u dewisiadau er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddiwallu anghenion pobl ifanc anabl.
Cyn cael ymateb Llywodraeth Cymru, nododd pobl ifanc a oedd yn ymwneud â phrosiect Power Up fod pedwar argymhelliad allweddol yn hanfodol er mwyn sicrhau newid. Y rhain oedd:
- Argymhelliad 11: canllawiau ymarferol i ysgolion
- Argymhelliad 19: modiwl hyfforddiant gorfodol i staff
- Argymhelliad 24: dull dim drws anghywir at wasanaethau
- Argymhelliad 29: llwybrau gwell gan awdurdodau lleol
Rydym yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn Argymhelliad 11. Rydym yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd gwneud addysg yn fwy cynhwysol ac wedi ymrwymo i wneud hyn drwy ganllawiau i ysgolion.
Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym sut roeddent wedi ‘colli allan’ ar rannau o’r profiad addysg oherwydd nad oedd eu hanghenion unigol yn cael eu diwallu, ac roeddent yn teimlo y gallai ysgolion fod wedi atal hyn drwy ymgynghori â’r ‘bobl o’u cwmpas’ ac elusennau i’w cefnogi.
Felly, mae’n addawol clywed bod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu’r canllawiau hyn o gyngor gan sefydliadau a’r rheini sydd â phrofiad bywyd. Byddem yn gobeithio gweld amserlen glir wedi’i nodi ar gyfer hyn, er mwyn sicrhau bod amser i ddatblygu hyn ar y cyd yn gynhyrchiol, gan ganiatáu amser i ymgynghori’n drylwyr, cyn y Senedd nesaf. Fel arall, bydd cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn yn cael ei golli.
Roeddem yn siomedig o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod Argymhelliad 19: creu modiwl hyfforddiant gorfodol i staff ysgolion.
Er ein bod yn cydnabod bod cymryd rhan yn wirfoddol mewn hyfforddiant yn bwysig a’n bod yn credu bod hyn yn arfer gorau, mae diffyg ymwybyddiaeth o anabledd yn dal i fod yn broblem mewn ysgolion sydd, yn ein barn ni, yn gofyn am ffocws strategol, a chamau gweithredu cenedlaethol clir i sicrhau newid mawr.
Mae pobl ifanc wedi sôn wrthym yn aml am sut mae rhai o’r bobl sy’n eu cefnogi mewn ysgolion wedi cael ‘camwybodaeth’ a ‘diffyg addysg’ ar anableddau a niwrowahaniaeth.
Rydym yn deall nad yw hyfforddiant gorfodol bob amser yn effeithiol. Ond rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio’r syniad bod athrawon sy’n dymuno cofrestru yng Nghymru yn dangos lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth o anabledd o leiaf. Byddem yn annog mabwysiadu dull tebyg i hyfforddiant Gofyn a Gweithredu, ar ôl Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), o leiaf.
Os nad yw pobl ifanc yn teimlo’n hyderus yng ngallu ysgolion i ddeall yr heriau sy’n eu hwynebu gyda’u hanableddau neu eu niwrowahaniaeth, ni fydd yn bosibl creu amgylcheddau hygyrch, cefnogol a theg sy’n gweithio i bob person ifanc.
Rydym hefyd yn croesawu dyhead Llywodraeth Cymru i symleiddio gwasanaethau er mwyn cynnig dull dim drws anghywir sy’n well, sef Argymhelliad 24.
Mae pobl ifanc wedi dweud bod ‘gofyn am gymorth ar eich pen eich hun’ yn gallu bod yn ‘frawychus’ ac yn ‘llethol’. Felly, rydym yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drawsnewid pob ysgol yng Nghymru tuag at ddull Ysgolion Bro, lle bydd cael gafael ar gymorth priodol yn haws oherwydd bod gwasanaethau’n cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth. Yn Platfform, rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn bod yn rhan o gymunedau ac yn gysylltiedig â nhw, felly rydym yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r farn hon.
Mewn perthynas ag Argymhelliad 29, er mwyn i awdurdodau lleol ddatblygu llwybrau cymorth clir sydd ar gael yn eang, mae Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn mewn egwyddor.
Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod arwyddocâd cael llwybrau gyda chyngor a gwybodaeth glir a gwybodus. Mae pobl ifanc wedi siarad â ni’n gyson am bwysigrwydd gwneud gwybodaeth yn hygyrch ar-lein ac all-lein.
Ond rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu canllawiau gyda disgwyliadau uchel ar awdurdodau lleol, ac rydym yn gobeithio, gydag amser, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth a her briodol, i awdurdodau lleol hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl.
Casgliad
I grynhoi, rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl.
Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd pob cam i wella’r system addysg i blant a phobl ifanc anabl. Mae’r byd yr un mor garedig a thosturiol â’r ffordd rydym yn trin yr unigolion ‘sydd ddim yn cael eu clywed yn aml’ yn ein cymdeithas. Yng ngeiriau un o’n pobl ifanc, “pan fydd cymdeithas yn cydweithio, bydd y byd yn lle gwell.”
Mae’r byd yr un mor garedig a thosturiol â’r ffordd rydym yn trin yr unigolion ‘sydd ddim yn cael eu clywed yn aml’ yn ein cymdeithas. Yng ngeiriau un o’n pobl ifanc, “pan fydd cymdeithas yn cydweithio, bydd y byd yn lle gwell.”