HomeGweithio dan arweiniad y person, yn drawsnewidiol ac yn seiliedig ar gryfderau (PTS) ar flaenau’ch bysedd

Gweithio dan arweiniad y person, yn drawsnewidiol ac yn seiliedig ar gryfderau (PTS) ar flaenau’ch bysedd

Canfyddiadau bras

Dengys yr adroddiad llawn bod yr egwyddorion y tu ôl i’r Ymateb PTS (person-led, transitional and strength-based) yn sefydlu ymddiriedaeth drwy wrando a buddsoddi amser mewn dod i adnabod pobl. Caiff pobl y gofod i ailddarganfod eu hunain a chanolbwyntio ar gryfderau a diddordebau. Mae’r amser a fuddsoddir yn helpu pobl i godi allan o fod yn ynysig ac yn hybu cysylltiad gyda phobl eraill. Mae’r ymateb yn ei gyfanrwydd yn helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu bywydau, ac yn gallu pwyso a mesur eu hopsiynau a gwneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch pa help neu gymorth y gallent fod eisiau ei gael. Mae lles pobl yn gwella o ganlyniad uniongyrchol i’r Ymateb PTS ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod gwneud penderfyniadau cadarnhaol yn cynyddu law yn llaw â chynnydd yn eu lles.

Yr ymchwil

Cyfwelwyd pobl a oedd yn gweithio gyda Chefnogwr PTS yn 2019. Rhwng 12 – 18 mis yn ddiweddarach, cawsant gyfweliad arall. Ategwyd yr wybodaeth a gasglwyd yma gan ddata meintiol a gasglwyd yn fewnol.

Cael [eu] trin fel bod dynol

Yr effaith a gafwyd

Pennu eu dyheadau eu hunain

Mae pobl yn rhydd i bennu eu dyheadau eu hunain – ac roedd y rhain yn amrywio o ailgysylltu â ffrindiau a theulu, i golli pwysau, sicrhau llety a llawer mwy, gan gynyddu’r penderfyniadau cadarnhaol yr oeddent yn eu gwneud.

Mynediad at wasanaethau

Awgryma tystiolaeth fod yr Ymateb PTS yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau eraill – a chaiff hyn ei gynnal hyd yn oed ar ôl i’r berthynas gefnogol ddod i ben.

Lles: Hunan-barch, pwrpas a hyder

Ar gyfartaledd, erbyn i’r berthynas gefnogol ddod i ben, gwelir cynnydd sgorau dangosadwy ac mae pobl yn dechrau nesáu at sgôr ‘Cyfartaledd Cenedlaethol’ WEMWBS.

Mae hyn yn golygu mwy o hunan-barch, teimlad o bwrpas, ac optimistiaeth.

Ataliol

Helpodd Cefnogaeth PTS bobl i ymdopi â realiti’r cyfnodau clo ac ynysigrwydd cymdeithasol, gan ddangos y gallai’r effeithiau fod wedi bod yn sylweddol waeth heb yr ymateb PTS.

Cysylltiadau cymdeithasol a rhwydweithiau cadarnhaol

Cyn y Gefnogaeth PTS, nid oedd gan bobl rwydweithiau cymdeithasol cryf a chadarnhaol. Gyda Chefnogaeth PTS Mayday, sefydlodd pobl grŵp ehangach o berthnasau cadarnhaol gyda theulu a ffrindiau.

Yr hyn y gallwn ei ddysgu ar gyfer y dyfodol

Nid yw’r cynnydd yn digwydd oherwydd y Cefnogwr PTS yn unig

Mae pobl wedi rhannu eu bod yn priodoli eu cynnydd i aelodau o’u teuluoedd a ffrindiau hefyd, ac mae Cefnogaeth PTS yn rhoi’r gofod iddyn nhw ailgysylltu â phobl sy’n gallu eu cefnogi – nid yw’n ymwneud â gwasanaeth bob amser.

Dirwyn y berthynas gefnogol i ben

Mae’r ffordd yr ydym yn dod â’r berthynas gefnogol i ben yn hollbwysig. Os na chaiff ei dirwyn i ben yn briodol, naill ai’n rhy gynnar neu heb gael ei reoli, gall gael effaith niweidiol ar ganlyniadau. Gall arwain at fwy o ynysigrwydd, llai o gysylltiadau, bod yn fwy agored i niwed, a hyd yn oed ddychwelyd at ddigartrefedd.

Dylai’r gefnogaeth fod yn annibynnol ar eu sefyllfa o ran tai

Mae gwneud y berthynas yn un sy’n ddibynnol ar sefyllfa dai benodol yn tanseilio dull personoledig a dan arweiniad y person y PTS, ac ymddengys bod datgysylltu’r rhain yn gwella canlyniadau.

Gall meini prawf cymhwysedd, newidiadau staff, neu ffactorau tebyg, amharu ar y broses

Dywedodd rhai pobl nad oeddent yn gallu cael gafael ar gefnogaeth gan eu cefnogwr pan roedd ei angen arnynt, yn y lleoliad yr oedd ei angen arnynt.

Mae diwylliant ehangach y system dai yn amharu ar bethau

Mae ceisio gweithredu PTS o fewn system tai sydd wedi torri’n gwneud y gwahaniaethau’n amlwg iawn. Mae’r system yn aml yn gwrthdaro â ffordd o weithio dan arweiniad y person sy’n seiliedig ar asedau.

Mae’n amlwg y gall yr ymateb PTS gyflawni canlyniadau cynaliadwy i bobl sy’n mynd drwy gyfnodau anodd yn enwedig o ran canlyniadau mewnol. Roedd yr unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn fwy hyderus, ac wedi’u grymuso.