HomeCynghrair Iechyd Meddwl Cymru

Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru

Pan fyddwn yn profi cyfnodau o salwch meddwl, mae angen cymorth arnom sy’n adlewyrchu ein hanghenion, sy’n dosturiol, yn barchus ac yn trin nid yn unig y broblem ar y pryd ond y profiadau sylfaenol sydd wedi effeithio arnom ni.

Mae Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC) yn gydweithrediad rhwng elusennau iechyd meddwl a hunanladdiad a hunanniwedio cenedlaethol Cymru. Ein haelodau yw Adferiad, Beat eating disorders, Mental Health Foundation, Mental Health Matters Wales, Mind Cymru, PAPYRUS Prevention of Young Suicide, Platfform, a Samariaid Cymru. Mae’r maniffesto hwn yn adlewyrchu meysydd o bryder cyffredin ar draws ein sefydliadau.

Fel Cynghrair, rydym yn eirioli dros leisiau pobl sy’n cael mynediad at gefnogaeth gennym ni a phawb sydd angen help gyda’u hiechyd meddwl. Credwn fod amddiffyn a gwella iechyd meddwl y genedl yn galw am ddull ar draws y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a bod yn ystyriol o drawma.

Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n profi salwch meddwl yng Nghymru yn cael eu trin â thosturi, bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn derbyn y gefnogaeth briodol mor gyflym ac mor agos at adref â phosibl.

Ein Gweledigaeth ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghymru