Llywiwch eich gwasanaethau: gofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng
A ydych chi wedi profi gwasanaethau gofal iechyd meddwl acíwt neu mewn argyfwng yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf?
Rydym wedi cydweithio â GIG Cymru i gynnal cyfres o grwpiau trafod wyneb yn wyneb i chi rannu eich profiadau a’ch barn, gan lywio sut y gall y gwasanaethau hyn gefnogi pobl orau.
Cynhelir y trafodaethau ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025 ledled Cymru a byddant yn helpu i greu adroddiad a fydd yn llywio datblygiad cymorth gofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng newydd yng Nghymru.
Byddwn yn gwneud hyn gyda’n gilydd. Mae’r trafodaethau ar eich cyfer chi, ac eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Bydd tîm Platfform yn cynnal y trafodaethau hyn, ac yn gweithio gyda chi i sicrhau bod pawb yn cael eu clywed, a bod eich straeon yn cael eu hysgrifennu a’u rhannu yn eich geiriau eich hun.
Bydd rhwng 10 ac 20 o bobl ym mhob trafodaeth.
-
Sut mae’n gweithio?
Pam ein bod yn cynnal y trafodaethau hyn a sut y gallwch chi rannu eich llais
-
Hoffwn fynd
Rhowch wybod i ni yr hoffech chi gymryd rhan yn un o’r trafodaethau
-
Hoffwn rannu fy stori
Hyd yn oed os nad ydych am fynd i drafodaeth, gallwch barhau i rannu eich stori gyda ni i helpu i lywio ein galwad am newid