HomeAmdanom niYmunwch â’n tîmHoffech chi ymuno â’n Bwrdd?

Hoffech chi ymuno â’n Bwrdd?

Mae gennym ddiddordeb mewn siarad gyda phobl o bob cefndir, sector, gwaith a phrofiadau bywyd sy’n teimlo cysylltiad ac ymroddiad i’n gwerthoedd a’n pwrpas.

Platfform is the mental health and social change charity.

We are looking to appoint three new people to our Board of Trustees.

At Platfform we believe in sustainable wellbeing for all. Specifically, we want:

To  change the dominant narrative around mental health

  • By advocating for an understanding of the role that trauma, life experiences and socio-economic circumstances have on our
    mental health and ability to heal.
  • By making the evidence for this accessible to help shift public perceptions

To make our ‘helping systems’ work better for people

  • By changing how we provide services to people in distress.
  • Focus first on the mental health, housing, homelessness, and young people’s systems we interact with.

Download the application pack.


Croeso gan ein Cadeirydd, Anne-Louise Clark

Annwyl ymgeisydd

Diolch am ddangos diddordeb yn y rôl Ymddiriedolwr gyda Platfform. Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ymddiriedolwyr newydd i’n Bwrdd a bwriadwn wneud hynny mewn dwy ran yn ystod y deuddeng mis nesaf. Wrth i ni gwblhau’r broses o uno ag Ymddiriedolaeth Mayday, rydym yn dod â’r gwersi a ddysgwyd a’n profiad at ei gilydd ac yn ehangu ein gwaith yng Nghymru i Loegr. Mae’n gyfnod prysur a chyffrous.

Ymunais â Bwrdd Platfform yn 2020. Cefais fy nenu at Platfform yn ylle cyntaf oherwydd pwrpas ac uchelgais y sefydliad, ac eglurder ei strategaeth. Roedd yn amlwg ein bod yn rhannu’r un gwerthoedd ac ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn elfen greiddiol iawn o’n meddylfryd a’n gweithredoedd.

Un peth a’m trawodd oedd gonestrwydd datganiad gwrth-hiliaeth Platfform. Mae’r datganiad yn cydnabod ein bod yn rhan o’r broblem, a hefyd yn amlinellu cynllun gweithredu, gan ddangos ymrwymiad i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. Mae llawer o waith i’w wneud eto, ac fel Cadeirydd fy rôl i yw sicrhau ein bod yn ymestyn ein huchelgeisiau ac nad ydym yn llaesu dwylo.

Camais i swydd y Cadeirydd ym mis Medi 2023, gan olynu Ubongabasi Obot. Rwy’n falch o helpu i arwain sefydliad sy’n ceisio byw ei werthoedd, a gweithio’n galed i gyflawni ei uchelgais. Rwyf hefyd yn falch ein bod yn gwneud y gwaith dan wenu, hyd yn oed ar adegau anodd, gan ddangos caredigrwydd a hiwmor. Rydym yn gweithio’n galed, ac yn chwerthin llawer.

I mi, mae diwylliant ein trefniadau Llywodraethu yn dangos beth a ddisgwyliwn gan weddill tîm Platfform – y gwerthoedd o fod yn gysylltiedig, tosturiol, dewr, a chwilfrydig, er mwyn cyflawni ein gwaith gyda’n gilydd.

Rydym yn groesawus, agored, gonest, a charedig at ein gilydd. Mae ein cyfarfodydd yn strwythuredig, â ffocws penodol, ond yn weddol anffurfiol a hamddenol, ac yn annog syniadau amrywiol a chyfleoedd i arloesi.

Rydym yn cyfarfod fel Bwrdd llawn bob chwe wythnos ac mae gennymddau bwyllgor sefydlog, y Pwyllgor Llywodraethu a Thâl a’r Pwyllgor Cadernid Busnes, sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Rydym yn adolygu’r strwythur hwn wrth i ni sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn addas ar gyfer heddiw a’r dyfodol – fel bod pethau’n gallu newid.

Rydym yn tyfu’n gyflym ac mae angen i ni sicrhau craffu trylwyr tra’n sicrhau bod digon o amser mewn cyfarfodydd bwrdd llawn ar gyfer dulliau cynhyrchiol o feddwl, strategaeth a dealltwriaeth ddofn o’n heffaith, dylanwad a chyflawni ein diben. Rydym yn disgwyl papurau a chyflwyniadau o safon uchel gan ein Prif Swyddog Gweithredol a’r tîm gweithredol, ac rydym yn cadw pethau’n symud yn gyflym. Rydym yn disgwyl i’n Hymddiriedolwyr baratoi, bod yn bresennol ac ymgysylltu.

Diolch unwaith eto i chi am ddangos diddordeb yn ein gwaith a dymuniadau gorau i chi â’ch cais. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, mae croeso i chi siarad ag Ewan Hilton ein Prif Swyddog
Gweithredol. Gallwch drefnu amser i gael sgwrs gydag ef drwy gysylltu â Heidi O’Driscoll, Cynorthwyydd Personol y Tîm Gweithredol – heidiodriscoll@platfform.org.

Dymuniadau gorau

Anne-Louise Clark
Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr