Ein Llais
Mae Ein Llais yn brosiect datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau ac sy’n ystyriol o drawma, ac fe’i ariennir gan Sefydliad Moondance.

Mae’r prosiect yn arddel safbwynt iacháu cymunedol ac yn cydnabod bod ein bywydau’n cael eu llunio gan ein profiadau, yn ogystal â’r cyd-destun ehangach yr ydym yn byw ynddo. Nod y prosiect yw gweithio gyda materion cymhleth fel tlodi hirdymor, unigedd a thrawma rhyng-genedliadol trwy fentrau dan arweiniad y gymuned i wella diogelwch, cysylltiad a chyfleoedd.
Mae cyd-gynhyrchu wedi bod wrth wraidd darpariaeth y prosiect dysgu hwn, drwy ymgysylltu a gweithio gyda phreswylwyr, rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach. O’r cychwyn cyntaf, mae pobl wedi rhannu’r angen i wasanaethau fod yn ystyriol o berthynas, er mwyn caniatáu i breswylwyr deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed ac yn ddilys yn eu profiadau.

Mae preswylwyr wedi rhannu eu hanghenion, eu gobeithion a’u dymuniadau gyda gonestrwydd, ynghylch y newidiadau y maen nhw’n teimlo sy’n angenrheidiol i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus. Mae’r prosiect wedi gweithio’n galed, ochr yn ochr â rhanddeiliaid lleol, i adeiladu mannau sy’n cynnig cysylltiad, i bobl rannu eu stori a rhannu iachâd, meithrin cysylltiadau a mannau lle caiff lleisiau preswylwyr eu clywed, a llunio cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau ac adnoddau y mae’r gymuned yn teimlo sy’n bwysig iddynt.
Mae’r prosiect hefyd wedi gweithio ar draws yr haenau ecolegol i fynd i’r afael â materion ehangach sy’n ymwneud â llai o ddiogelwch, mynediad at ofal iechyd ac amodau tai anniogel. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i gefnogi systemau sydd eisoes wedi llosgi allan i greu lle i fyfyrio ac ymdrin â materion cymhleth trwy lens sy’n ystyriol o drawma. Mae prosiectau adrodd straeon a dulliau darlunio creadigol eraill hefyd yn cael eu defnyddio i rannu safbwyntiau a chryfderau sydd fel arall yn mynd ar goll yn naratif drechaf yr ardal.
Yn ei hanfod, mae Ein Llais yn ymwneud â gweithio law yn llaw â’r gymuned i greu’r amodau ar gyfer ffynnu; trwy ganiatáu i’r gymuned arwain ar greu newid trawsnewidiol sydd nid yn unig yn caniatáu iddyn nhw eu hunain wella, ond hefyd creu ymdeimlad cyffredin o berthyn i’r gymuned a chefnogaeth i’w gilydd.