HomeLlywiwch eich gwasanaethau: gofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwngSut mae’n gweithio?

Sut mae’n gweithio?

Sut gallwch chi fod yn rhan o waith llywio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng trwy rannu eich llais.

Os hoffech gymryd rhan mewn trafodaeth neu rannu eich stori, darllenwch yr wybodaeth hon yn ofalus.

Beth yw pwrpas y trafodaethau hyn?

Rydym wedi cydweithio â Gweithrediaeth GIG Cymru i’w helpu i gasglu eich barn ar sut y gallai rhaglen gofal iechyd meddwl mewn argyfwng ac i gleifion mewnol newydd wella’r cymorth y mae pobl yn ei gael.

Yn y trafodaethau, bydd pobl yn rhannu ac yn trafod eu profiadau. Bydd y pethau sy’n cael eu rhannu a’u paratoi yn y grŵp yn rhan o adroddiad i GIG Cymru. Bydd yr adroddiad hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cymorth gofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng newydd.

Rydyn ni eisiau clywed eich stori, boed hynny’n cael cymorth, helpu rhywun arall i gael cymorth, neu weithio mewn gwasanaethau.

Yn syml, os ydych chi wedi cael profiad o ofal iechyd meddwl acíwt neu mewn argyfwng yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, dyma gyfle i rannu eich profiad, a chydweithio i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl.

Cynhelir y trafodaethau hyn ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025.


Ar gyfer pwy mae’r trafodaethau hyn?

Mae’r trafodaethau hyn ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n 18 oed neu’n hŷn, ac sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf hyn:

  • Wedi defnyddio neu dderbyn gwasanaethau ‘mewn argyfwng’ o fewn y pum mlynedd diwethaf.
  • Wedi bod yn glaf mewnol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru o fewn y pum mlynedd diwethaf
  • Teulu neu ofalwr rhywun sydd wedi bod yn glaf mewnol yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • Wedi gweithio yn ystod y pum mlynedd diwethaf i sefydliad trydydd sector yng Nghymru sy’n cefnogi cleifion mewnol mewn gwasanaethau iechyd meddwl a phobl sy’n profi argyfwng

Pryd mae’r trafodaethau?

Dim ond i un o’r diwrnodau trafod y bydd angen i fynychwyr ddod.

Aelodau o’r teulu, gofalwyr a staff y trydydd sector

  • Dydd Llun 17 Chwefror 2025
    • Abertawe
  • Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025
    • Wrecsam

Pobl sydd wedi bod yn gleifion mewnol mewn gwasanaethau iechyd meddwl neu sydd wedi defnyddio gwasanaethau mewn argyfwng

  • Dydd Llun 17 Mawrth 2025
    • Bae Colwyn
  • Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
    • Caerdydd

Sut mae cymryd rhan?

Os hoffech gymryd rhan, gallwch wneud dau o’r canlynol – neu dim ond un os yw’n well gennych:

  • Dewch i drafodaeth i siarad am eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill, a gweithio gyda ni i helpu i lunio’r hyn fydd yn rhan o’r adroddiad terfynol i GIG Cymru.

I roi gwybod i ni yr hoffech fynd i drafodaeth, cwblhewch ffurflen yma

  • Rhannwch eich stori. Mae’n debyg y bydd y straeon a anfonir atom yn cael eu hystyried yn y grwpiau trafod a byddant yn rhan o’r adroddiad i GIG Cymru. Bydd ein partner GIG yn cadw eich stori i’w cynorthwyo wrth iddynt gyflwyno’r achos dros unrhyw newidiadau sydd eu hangen, ac efallai caiff eich stori ei rhannu yn ddienw gydag eraill hefyd fel rhan o’r gwaith gwella hwnnw.

Os hoffech fynd i drafodaeth, cofrestrwch eich diddordeb cyn rhannu eich stori. Gallwch hefyd rannu eich stori heb fynd i ddigwyddiad.

Rhannwch eich stori yma.

Pan fyddwn yn rhannu straeon yn gyhoeddus neu yn yr adroddiad neu ddigwyddiadau, gallant fod yn ddienw os yw’n well gennych.

Unwaith y byddwch wedi anfon eich gwybodaeth atom, byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod i chi am y camau nesaf. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly ni allwn wahodd pob ymgeisydd. Ni allwn ychwaith rannu pob stori, ond bydd pob stori yn cael ei darllen. Bydd pob profiad yn llywio’r adroddiad i GIG Cymru, a fydd yn llywio dyfodol gwasanaethau.


Cwestiynau Cyffredin

Gofynion bwyd a deiet

Bydd cinio ar gael ym mhob digwyddiad. Byddwch yn gallu nodi unrhyw anghenion deietegol pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen digwyddiad.

Treuliau teithio: Gofynnir i fynychwyr wneud eu trefniadau teithio eu hunain. Gallwn ad-dalu rhai costau teithio ar gyfer pellteroedd teithio byrrach; ewch i’r drafodaeth agosaf atoch. Os ydych yn ansicr ynghylch costau teithio, byddwch yn gallu gwirio gyda threfnydd y digwyddiad ymlaen llaw.

Gweithwyr cymorth a chyfieithwyr ar y pryd: os cewch eich cefnogi gan weithiwr cymorth neu ddehonglydd ar y diwrnod, efallai y byddwn yn gallu ad-dalu eu cyfradd tâl dyddiol.

Mynediad: Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb ar y diwrnod. Bydd cyfle o fewn y ffurflenni i chi ein hysbysu am eich anghenion unigol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag amyfleming@platfform.org


Gwybodaeth bwysig arall

Gall straeon a rennir gyda’r prosiect hwn gael eu rhannu â sefydliadau eraill neu eu cyhoeddi’n gyhoeddus, naill ai gan Platfform neu GIG Cymru. Gellir gwneud straeon yn ddienw i’w defnyddio’n allanol os oes angen.

Bydd straeon a rennir, a thrafodaethau mewn digwyddiadau grŵp, yn cael eu defnyddio’n ddienw er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad i GIG Cymru. Bydd straeon yn cael eu cadw gan Weithrediaeth GIG Cymru at ddiben y prosiect hwn ond bydd yr adroddiad terfynol hwn yn cael ei gadw fel eiddo deallusol Gweithrediaeth GIG Cymru. – mae hyn er mwyn sicrhau y gellir parhau i rannu profiadau yn y dyfodol, ac y gallant barhau i fod yn rhan o waith newid a llywio systemau a gwasanaethau.

Ni fydd data personol a rennir gyda Platfform yn cael ei rannu ag unrhyw un arall, ac eithrio os ydych wedi rhoi caniatâd i ni rannu eich enw go iawn ochr yn ochr â’ch stori. Efallai y byddwch am gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â llywio gwasanaethau – os felly, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu eich manylion gyda’n partner yn GIG Cymru i helpu i hwyluso hyn.