Ein Maniffesto dros Newid
Rydym yn galw am esblygiad yn y ffordd y mae iechyd meddwl yn cael ei ddeall a’i drin.
Ein gweledigaeth ar gyfer symud Cymru ymlaen
Gan adeiladu ar gyhoeddiad diweddar Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, rydym nawr yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer symud Cymru ymlaen yn ein Maniffesto ar gyfer Newid. Darllenwch ein Maniffesto yma.
Gan weithio gyda dros 9000 o bobl y flwyddyn sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl, rydym wedi gweld yr un patrymau yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro. Mae’n amlwg nad yw’r systemau cymorth sydd ar waith yn gweithio a bod ein hiechyd meddwl cyfunol yn gwaethygu.
Mae angen ail-ddylunio'r systemau i gymryd mewn i ystyriaeth y pethau sydd wir yn effeithio ar ein hiechyd meddwl; tlodi, adfyd, anghyfiawnder a thrawma.
Mae angen inni weithredu ac adeiladu’r pethau a fydd yn helpu i greu newid gwirioneddol; gwaith teg, cyflog da, tai o safon, gofal plant, addysg dda, mynediad at drafnidiaeth, mannau gwyrdd, cynhwysiant, a chyfleoedd ar gyfer cysylltiadau a pherthnasoedd.
Mae’r daith tuag at newid eisoes wedi dechrau, ac mae’r blociau adeiladu ar gyfer system well yng Nghymru eisoes yn cael eu gosod. Yr hyn sydd ei angen arnom nesaf yw ymrwymiad hirdymor i barhau i yrru’r symudiad hwnnw ymlaen. Mae hyn yn golygu creu amodau cynaliadwy ac ymrwymo i daith y gwyddom y bydd yn cymryd degawdau i’w gwireddu. Ond mae’r degawdau o dystiolaeth, straeon miliynau, a’r ymchwil wyddonol yn ei gwneud yn glir: mae angen inni ddechrau nawr.
Mae llawer i fod yn falch ohono, ac felly o le o obaith y gwnawn yr argymhellion pellach canlynol ar gyfer trawsnewid a newid.