4YP Bae Abertawe
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13 – 16 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth un i un, grwpiau cymorth cymheiriaid a’r Rhaglen Meddwl am dy Feddwl.
4YP ym Mae Abertawe
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13 – 16 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth un i un, grwpiau cymorth cymheiriaid a’r Rhaglen Meddwl am dy Feddwl.
Nid oes angen diagnosis arnoch i gael help gan y prosiect – rydym yn gweithio gydag unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd. Nid ydym yn ceisio ‘trwsio’ pobl. Rydym yn gwrando ac yn gweithio gyda phobl ifanc i ddod o hyd i ffyrdd a strategaethau newydd sy’n helpu i hyrwyddo lles.
Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan hefyd yn cael cyfle i hyfforddi i ddod yn Fentor Cymheiriaid Gwirfoddol. Mae mentoriaid yn gweithio gyda ni i lunio dyfodol y prosiect, gan sicrhau mai dyna’n union y mae pobl ifanc ei eisiau a’i angen.
Beth mae’r prosiect yn ei gynnwys:
Gwaith grŵp
Cyfarfodydd wythnosol mewn amgylchedd diogel a hamddenol lle gallwch chi fod yn chi’ch hun a mynnu eich llais eich hun. Y rhai sy’n cymryd rhan sy’n penderfynu pa agweddau ar les maen nhw am eu trafod a faint yr hoffent ei rannu. Yn y grwpiau, byddwn yn cyflwyno gweithdai ar bynciau y mae’r bobl ifanc yn gofyn amdanynt, felly mae’n lle i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chael hwyl wrthi!
Cefnogaeth 1-i-1
Mae ein cefnogaeth 1-i-1 yn digwydd dros chwe sesiwn awr o hyd. Gellir cynnal y sesiwn hon naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein yn dibynnu ar ble mae’r person ifanc yn teimlo fwyaf hyderus. Gallai hyn fod naill ai yn yr Ysgol, yn ein Swyddfa yn Nhreforys, Abertawe neu yn y gymuned leol (e.e. siop goffi neu lyfrgell). I’r rhai sydd eisiau cael cefnogaeth ar-lein, gallwn wneud galwad ffôn, Zoom neu Teams.
Sylwer nad gwasanaeth cwnsela mo hwn. Rydym yn canolbwyntio ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau i helpu pobl ifanc ddysgu ffyrdd newydd o reoli eu hiechyd meddwl a’u lles.
Gwaith grŵp
Rydym yn cynnal Rhaglen Llesiant Chwe wythnos (o’r enw Meddwl am dy Feddwl), wedi’i chynllunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, a’i nod yw darparu gwybodaeth ac arweiniad ynghylch cefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain. Mae ein rhaglen yn cynnwys 6 sesiwn awr o hyd, sy’n digwydd mewn amgylcheddau fel ysgolion neu ardaloedd cymunedol, sy’n caniatáu i bobl ifanc ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd tuag at newid cadarnhaol.
Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth i ysgolion a grwpiau cymunedol ynghylch pynciau eraill sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles, gan gynnwys:
● Straen Arholiadau
● Llesiant Cyffredino
● Diogelwch Ar-lein
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallem ei gynnig i’ch sefydliad, cysylltwch â ni drwy’r canlynol: youngpeople@platfform.org
I gymryd rhan yn y prosiect llenwch ein ffurflen atgyfeirio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Ebost: youngpeople@platfform.org
Ffôn: 01656 647722 / 07972631978