Dydd Gwener 17 Gorffennaf – Digartrefedd a Thai

(Mae’r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Ydyn ni’n arwain newid system yng Nghymru? Sut? Ymunwch â sgwrs ledled y DU ar wersi o gloi i lawr gyda’r MayDay Trust a’r Homeless Network Scotland.

Dechrau:
Dydd Gwener 17th Gorffennaf, 2020 at 1:00yp
Diwedd:
Dydd Gwener 17th Gorffennaf, 2020 at 2:30yp
Lleoliad:
Ar-lein

Mae bywyd wedi newid, mae gwaith wedi newid, rydyn ni wedi newid. Ond a allwn ni ddysgu o’n profiadau? Sut allwn ni ddefnyddio’r hyn sydd wedi digwydd i greu’r dyfodol y dymunwn ei weld? Beth ydyn ni wedi’i ganfod yn sgil y cyfyngiadau symud?

I ateb y cwestiynau hyn, rydym yn cynnal cyfres o sgyrsiau ar-lein wedi’u hwyluso sy’n agored i’r rhai sydd am herio’r status quo, dysgu o ddarganfyddiadau eich gilydd, a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Digartrefedd a Thai

Rydym am glywed eich meddyliau ar y ffocws craff y mae’r pandemig wedi’i ddwyn i’ch gwaith. Rhannwch eich profiad o fod mewn a / neu weithio mewn systemau tai a digartrefedd. Mae hyn yn rhan o gyfres o sgyrsiau yn y DU ar gyfer y rhai sy’n chwilfrydig ac yn cael eu gyrru gan newid system.

Mae hyn yn rhan o gyfres o sgyrsiau sy’n digwydd ledled y DU ochr yn ochr â Mayday Trust a Homeless Network Scotland, i’r rhai sy’n chwilfrydig ac yn cael eu gyrru gan newid system, gweler mwy yma.

Sut fydd hyn yn gweithio?

Byddwn yn cynnal cyfres o drafodaethau wedi’u hwyluso ar Zoom (12–30 o bobl). Byddwn yn dechrau’r sesiwn gyda chyflwyniad byr i osod cyd-destun. Yna byddwn yn symud ymlaen i gyfres o gwestiynau myfyriol i’w trafod gan grwpiau bach mewn ystafelloedd trafod rhithiol wedi’u hwyluso.

Sut fyddaf i’n elwa o gymryd rhan?

Gall rhannu profiadau, a gwrando ar brofiadau eraill, fod yn gadarnhaol ac yn ysgogol. Ein nod yw cynyddu ein hymwybyddiaeth o’r hyn sy’n bosibl trwy glywed a rhannu ein hamrywiol brofiadau, ac y bydd hynny’n ysbrydoli ac yn arwain at weithredu ar y cyd a newid cymdeithasol.

Gallwn gyfrannu at fudiad cymdeithasol sy’n datblygu gwasanaethau a chymunedau mwy cydradd a chysylltiedig yng Nghymru. Byddwn yn adrodd yn ôl ar y themâu trawsbynciol sy’n dod i’r amlwg o sgyrsiau ein sesiynau Canfyddiadau’r Cyfyngiadau Symud.

Pa bryd mae’r sgwrs hon yn cael ei chynnal?

Gorffennaf 17, 2020. 1:00yp – 2:30yp.

Oes gennych chi rywbeth i’w rannu ond na allwch chi wneud y digwyddiad?

Rhannwch eich profiadau gyda ni yn talk@platfform.org

Cysylltwch â ni

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn