Gwneud amser i deulu a ffrindiau

Mae ffrindiau da yn dda i’ch iechyd. Mae ffrindiau’n eich helpu i ddathlu’r amseroedd da a’ch cefnogi yn ystod cyfnodau anodd.
Mae meithrin a chynnal cyfeillgarwch a pherthynas iach yn golygu rhoi a derbyn, ac mae gadael i ffrindiau a theulu wybod eich bod yn malio amdanyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfeillgarwch yn helpu i gryfhau’r cysylltiad rhyngoch.
I feithrin cyfeillgarwch a bod yn ffrind da, mae’n helpu i gofio bod yn ffeind, gwrando, dangos y gallan nhw ymddiried ynoch chi a gwybod eich bod yn ffrind gwerthfawr iddyn nhw.
Mae nifer ohonom yn byw bywydau mor brysur nes ei bod yn hawdd anghofio gwneud amser ar gyfer mwynhau cwmpeini teulu a ffrindiau.
Mae’n hawdd iawn bod yn gaeth i’n hamserlenni prysur, ond mae cysylltu gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru yn hanfodol i’n lles ac i’n synnwyr o hapusrwydd.
Ceisiwch gynllunio ar gyfer amser gyda’r bobl rydych yn mwynhau treulio amser gyda nhw cyn i’ch wythnos brysuro neu lenwi. Gall fod mor syml â dal i fyny heb eich ffôn neu ddyfeisiau digidol eraill i dynnu’ch sylw, mynd am dro mewn parc lleol neu efallai baratoi swper gyda’ch gilydd. Gorau po symlaf yw’r gweithgaredd, gan mai’r nod yw bod yng nghwmni’r bobl sy’n bwysig i chi.