Helpu eraill

Gall helpu eraill hefyd eich helpu chi i deimlo’n dda gan ei fod yn arwain at newid cadarnhaol yn eich hwyliau a’ch emosiynau. Trwy helpu eraill, nid ydych yn canolbwyntio arnoch chi eich hunain a’r pethau sy’n eich poeni, ond ar anghenion pobl eraill a gall hyn eich helpu i gysylltu mwy gydag eraill a chreu teimlad o berthyn i’ch cymuned.

Pan fyddwch chi’n helpu eraill, mae’n gostwng eich lefelau straen, sydd yn helpu nid yn unig eich iechyd corfforol ond eich iechyd meddwl hefyd. O helpu rhywun trwy fod yn garedig gyda nhw, gallwch ysbrydoli eraill i wneud hynny hefyd, ac mae’r potensial am gefnogaeth yn tyfu.

Syniadau am sut i helpu eraill:

1. Cyfrannwch ddillad neu eitemau nad ydych eu heisiau
2. Gwirfoddolwch eich amser a’ch sgiliau
3. Byddwch yn ffrind da
4. Gwnewch rywbeth caredig ar hap. Dyma rai syniadau dymunol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn