Lles Platfform

Mae Lles Platfform yn cynnig strategaethau ar gyfer sefydliadau, hyfforddiant ar gyfer timau, therapïau siarad ar gyfer pawb.

Cefnogaeth lles i bobl a sefydliadau

Mae ein tîm Lles Platfform wedi’i ffurfio o fwy nag 85 o bobl. Mae pob un ohonom ar y tîm am newid y byd drwy arddel dull tosturiol, dyngarol. Rydyn ni’n seicolegwyr, arbenigwyr lles yn y gweithle, a chwnselwyr sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o feysydd.

Rydym yn cyfuno ein gwasanaethau cwnsela arobryn (a elwid yn Breathe gynt) â hyfforddiant lles yn y gweithle. Mae ein dull yn rhoi ffordd llawer mwy hirdymor o ddeall a rheoli heriau iechyd meddwl mewn ffordd ataliol yn hytrach nac adweithiol.

Mae ein dull yn seiliedig ar yr arbenigedd yr ydym wedi’i gasglu yn ein 30+ o flynyddoedd fel elusen iechyd meddwl sy’n gweithio ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae ein darpariaeth cwnsela’n cynnig amrywiaeth eang o therapïau siarad ac mae wedi cefnogi mwy na 3,000 o bobl ers ei ffurfio yn 2018. Nid rhyw ddull unffurf, generig mo’r gefnogaeth a gynhigiwn i sefydliadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau i gael dealltwriaeth go iawn o’u pobl, eu diwylliant a’u cydberthynasau unigryw. Dyna’r sylfaen ar gyfer newid gwirioneddol, parhaol.

Mae holl elw Lles Platfform yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr elusen i’n helpu i weithio mwy ar ein cenhadaeth ar y cyd o wireddu lles cynaliadwy i bawb.

Gallwch ymweld â Lles Platfform yma

Unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â ni:

E:  hello@platfformwellbeing.com

T: 02920 440 191

 

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Bywyd, gwaith a lles

    Mae ein prosiectau yn creu cyfleoedd i bobl nodi a harneisio eu sgiliau, cysylltu â chyfoedion a theimlo'n rhan werthfawr o'u cymuned.

  • Eich lles

    “…mae lles yn golygu synnwyr o bwrpas, optimistiaeth, gobaith, effaith, a chyfeiriad”

    Shawn Ginwright – Hope, Healing, and Care