Peilot Incwm Sylfaenol Cymru: rhoi mwy o werth ar bobl na gwaith papur

Cylched nawdd cymdeithasol

Nid yw’n gyfrinach eich bod yn debygol o deimlo dan straen yn gyson os ydych chi’n llwglyd a ddim yn gwybod o ble bydd eich pryd bwyd nesaf yn dod. Pan fyddwn dan straen, caiff yr hormon cortisol ei ryddhau yn y corff, gan ein rhoi yn y modd ‘ymladd neu ddianc’. Os daw hyn yn gyflwr normal i ni, gall fod yn anodd iawn meddwl a gweithredu, a gall hyn arwain at deimladau o ddigalonni, bod wedi’n gorlethu, a thrallod.

Nid yw’n ymddangos bod system nawdd cymdeithasol Prydain yn cydnabod hyn, ac yn awgrymu yn hytrach bod bygwth amddifadrwydd a llwgu i bobl nad ydynt yn cydymffurfio â’u hamodau, a thrwy hynny beri straen, rywsut yn mynd i roi i bobl yr hyder y mae ei angen arnynt i sicrhau swydd gyda chyflog da. Mae’r newidiadau niferus (mwy na 100 ohonynt) i nawdd cymdeithasol yn y 15 blynedd ddiwethaf oll wedi cyfrannu at wneud hawlio budd-daliadau’n anos, pobl yn derbyn llai o arian, a mwy o amodau’n cael eu rhoi ar bobl sy’n gwneud cais i’w derbyn, sydd, yn ei dro, yn arwain at sancsiynau.

Weithiau, mae’r sancsiynau hyn wedi cael eu gosod mewn achosion ble maent yn ymddangos yn amhosibl eu cyfiawnhau – er enghraifft, y dyn a gafodd sancsiwn am fethu apwyntiad yn y ganolfan waith am fod ei wraig yn cael camesgoriad plentyn. Mae cael sancsiwn yn golygu dim incwm – weithiau am fisoedd lu – ac felly mae pobl wedi cael eu gadael i lwgu, ac i ddibynnu ar fanciau bwyd.

Cynnydd aruthrol yn y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru

Bu cynnydd aruthrol o 480% yn y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru rhwng 2011 a 2014 pan ddigwyddodd llawer o’r newidiadau hyn i nawdd cymdeithasol. Ers 2014, fe wnaeth ‘sefydlogi’ (yn yr ystyr bod cyfradd y cynnydd wedi lleihau) ac felly, ‘dim ond’ gan 54% pellach y cododd. Wedi’i fynegi mewn ffigurau, golyga hyn bod 135,000 o bobl – 51,000 ohonynt yn blant – wedi defnyddio banciau bwyd yn y flwyddyn cyn y pandemig (fe wnaeth y pandemig ei hun gynyddu’r defnydd o fanciau bwyd). Dyna 135,000 o bobl yn profi ymateb straen o ganlyniad i fod yn llwglyd.

Siawns bod ffordd well o wneud pethau?

Mae’r cysyniad o incwm sylfaenol i ddinasyddion, neu incwm sylfaenol i bawb (universal basic income/UBI), yn un sy’n mynd yn ôl ddegawdau, ac mae wedi cael cefnogwyr ar ochrau chwith a dde’r sbectrwm gwleidyddol.

Mae’r syniad yn un syml. Rydych yn edrych ar system budd-daliadau lles sy’n gofyn i bobl neidio drwy bob math o rwystrau a chadw at safonau ymddygiad sy’n aml yn amhosibl – ac wedyn rydych yn penderfynu gwneud y gwrthwyneb. Rydych yn darparu taliad arian rheolaidd i bobl heb amodau.

Does dim ots os ydyn nhw wedyn yn gweithio ychydig oriau yn yr economi gig – maen nhw’n cadw’r arian ychwanegol hwnnw, yn hytrach na mynd drwy asesiadau llafurus ac amhersonol i bennu eu hawl iddo. Does dim ots os oes ganddyn nhw salwch sy’n mynd yn waeth neu’n well am yn ail – maen nhw’n cael yr arian, yn hytrach na gobeithio bod eu hasesiad gallu i weithio’n digwydd bod ar ddiwrnod pan fo’r salwch yn haws ei weld. A does dim ots os ydyn nhw’n methu â chyrraedd eu hapwyntiad yn y ganolfan waith am fod eu gwraig yn cael camesgoriad – maen nhw’n cael yr arian. Dim llwgu, dim ymateb straen, dim banciau bwyd, a llai o salwch.

Mae’r rhai sy’n feirniadol o’r syniad yn dadlau bod tynnu’r amodau i chwilio am waith rhywsut am wneud pobl yn ddiog. Y byddan nhw’n colli unrhyw ddiddordeb mewn dod o hyd i waith. Ond, wedi bod yn 22 mlwydd oed ac yn ddi-waith, gallaf ddweud wrthych ei fod yn mynd yn beth diflas yn ddigon buan.

Y gwir yw bod natur ddiamod Incwm Sylfaenol i Bawb yn galluogi mwy o bobl i ganolbwyntio ar wirfoddoli, cael profiad gwaith ar gyfer y gyrfaoedd y maen nhw’n dymuno eu cael, gofalu am anwyliaid, neu ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd eu hunain.

Yn wir, dewch inni droi yma’n ôl i’r 1980au, pan sefydlodd y llywodraeth Ceidwadol Lwfans Menter yr Ifanc, a oedd yn golygu y gallai unrhyw berson ifanc a oedd â syniad ar gyfer busnes gael y ganolfan waith i adael llonydd iddynt, a derbyn budd-daliadau’n ddiamod tra’r oeddent yn gweithio ar y busnes hwnnw. Crëwyd rhai o’r cwmnïau recordiau enwocaf erioed drwy’r cynllun hwn, sy’n dangos y gall unrhyw beth ddigwydd os caniatewch i bobl ddilyn yr hyn y maent yn angerddol drosto.

Ac, wrth gwrs, ni wnaiff yr arian hwn wneud pobl yn gyfoethog – dim ond caniatáu iddyn nhw fforddio hanfodion bywyd. Golyga hyn y gall bobl fod yn rhydd i gymryd gwaith achlysurol i ychwanegu at eu hincwm – ac mewn gwirionedd bydd mwy o gymhelliant i wneud hynny, gan na fyddant yn colli eu budd-daliadau’n sydyn, neu’n gorfod llenwi gwerth llond coedwig law o waith papur.

Ffordd well ymlaen

Yn Platfform, hoffem weld byd ble nad oes rhaid i bobl a allai fod eisoes wedi cael diagnosis iechyd meddwl fynychu asesiadau amhersonol, dan arweiniad y system, er mwyn gallu bwyta. Credwn y byddai’n gwella lles pobl pe na fyddai’n rhaid iddynt boeni mwyach am fedru fforddio eu pryd nesaf o fwyd, a byddai’n gam ar y ffordd i adferiad, a darganfod synnwyr o bwrpas.

Dyna pam rydym wrth ein boddau fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer incwm sylfaenol yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd pobl gyda diagnosis iechyd meddwl yn cael eu cynnwys yn y peilot hwn, ac yn bwysicach fyth bod y rhai a gaiff y dasg o werthuso’r cynllun yn cael cyfarwyddyd i fesur llesiant cyfranogwyr yn hytrach na chanolbwyntio ar fesurau economaidd cul.

Nid Cymru mo’r genedl gyntaf i gynnal cynllun peilot o’r fath, wrth gwrs. Cynhaliodd y Ffindir gynllun peilot incwm sylfaenol a ganfu bod derbynwyr yr incwm yn fwy bodlon yn eu bywydau ac yn profi llai o straen meddyliol, iselder, tristwch ac unigrwydd. Roedd ganddynt ganfyddiad mwy cadarnhaol o’u galluoedd gwybyddol hefyd – cof, dysgu a’r gallu i ganolbwyntio.

Yn yr Alban, canfu gwerthusiad eu cynllun peilot ei bod yn debygol y byddai llawer o agweddau cadarnhaol o ran lles, a bod merched gydag ymrwymiadau gofal plant yn arbennig o debygol o elwa. Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hwnnw hefyd bod cydweithrediad llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hanfodol ar gyfer cynnal cynllun peilot mwy.

Mae potensial hefyd am fwy fyth o fanteision. Mae staff canolfannau gwaith eu hunain yn aml wedi teimlo’n ddigalon yn y system bresennol – ychydig iawn o annibyniaeth sydd ganddynt o ran sut yn union y gallant geisio helpu’r bobl a saif o’u blaenau, mae’n rhaid iddyn nhw gwrdd â hawlwyr sy’n cyflwyno problemau bywyd cymhleth a cheisio eu ffitio o fewn system sydd wedi’i gor-symleiddio, ac mae’n rhaid iddynt ymdopi gyda gwybod y gall y camau gweithredu y mae’n rhaid iddynt eu cymryd wneud pethau’n waeth.

Gallai dull mwy effeithiol a thosturiol olygu bod yr Anogwyr Gwaith hynny wedi’u clymu at lai o systemau, targedau a gwaith papur. Gyda mwy o le i helpu pobl i wirioneddol gyflawni eu nodau bywyd, efallai y gwelwn well lles ar ddwy ochr y ddesg. Onid yw hi’n bryd inni roi cynnig ar hynny?

Gobeithio bydd cynllun peilot Cymru’n gallu dechrau dangos ffordd well inni.