Costau byw, a chostau oedi: pam mae angen am newid mwy treiddgar nawr

Bydd miliynau o bobl yn teimlo rhyddhad enfawr wrth glywed y newyddion bod prisiau ynni am gael eu capio ar £2,500 y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf. Ond cysur byrdymor yn unig ydyw i’r rhai a oedd prin yn ymdopi, yn poeni am y syniad o wynebu biliau llawer uwch ond yn methu â thalu’r costau newydd a gyflwynwyd eisoes yn gynharach eleni. Ni fydd yn mynd i’r afael â phryderon pobl a oedd eisoes yn cael trafferth ac a oedd mewn ofn wrth ystyried gaeaf yn byw mewn tŷ oer. Ni fydd yn ymdrin â phryderon pobl wrth iddyn nhw weld y biliau cynyddol yn bwyta i mewn i unrhyw gynilon y maen nhw wedi llwyddo i’w casglu. Bydd llawer o aelwydydd eisoes wedi gweld cynnydd o 80% a mwy ar eu biliau, cynnydd nad aethpwyd i’r afael ag ef yn ddigonol ar y pryd. Mae perygl i’r rhai a oedd yn cael trafferthion ymdopi â’r codiadau prisiau hyn sydd eisoes wedi digwydd eleni fynd yn bobl anghofiedig wrth i’r lefelau prisiau presennol ddod yn ‘normal newydd’.

Rhaid inni gydnabod bod y niwed i’n hiechyd, a ragwelwyd gan lawer, bellach wedi’i wireddu. Mae’r rhybuddion dyddiol ar y newyddion am y cynnydd mewn biliau sydd ar y gorwel, diffyg gweithredu gan y llywodraeth oherwydd newidiadau i’r arweinyddiaeth, ac yna’r ‘dadleuon’ yn cynnwys cyn wleidyddwyr blaenllaw a chyn olygyddion papurau newydd yn dweud wrth bobl wisgo siwmper a throi’r gwres i lawr eisoes wedi gwneud llawer iawn o niwed. Nid dim ond pan fo’r bil yn cyrraedd mae’r ofn ynghylch talu biliau’n digwydd, mae’n digwydd wrth ddisgwyl am y bil, a’r pryder na fyddwch yn gallu ei dalu. Y dyledion a allai olygu’r posibiliad o golli eich cartref, methu bwydo’ch plant, a’r ffrae rydych chi’n debygol o’i chael gyda’r partner am beth i’w aberthu nesaf i geisio gwneud arbedion main. Mae aelwydydd dan densiwn, a gwyddom yn rhy dda am yr effaith mae aelwyd llawn tensiwn a gwrthdaro’n ei chael ar ganlyniadau iechyd plant. Rhaid meddwl hefyd, wrth gwrs, am y rhieni hynny, a’r straen y mae hyn oll yn ei roi arnyn nhw.

Fe wnaeth y ffaith bod cwestiwn a ddylai’r llywodraeth hyd yn oed helpu pobl atgyfnerthu’r neges i bobl a oedd dan anfantais eisoes: nad yw’r bobl sy’n dylanwadu ac yn gwneud penderfyniadau’n eu deall nhw nac yn malio amdanyn nhw.

Po hiraf y cafodd yr ofn hwnnw aros yn ein meddyliau, po fwyaf y niwed i ni. Mae straen a phoeni cronig yn gysylltiedig â system imiwnedd wannach[1] a chyfnodau adfer hwy ar ôl salwch. Mae hyn ar ei ben ei hun yn rhoi iechyd hirdymor mewn perygl, hyd yn oed cyn inni ystyried effeithiau profi’r digwyddiad trawmatig ei hun. At hynny, mae’r ffaith bod cwestiwn o gwbl, mater a ddaeth i’r amlwg yn ystod cystadleuaeth arweinyddiaeth y ceidwadwyr dros p’un a ddylai’r llywodraeth helpu, neu a ddylai ‘rhoddion cardod’ ddod i ben, wedi gwaethygu’r broblem. Fe wnaeth hyn atgyfnerthu’r neges i bobl a oedd dan anfantais eisoes nad yw’r bobl sy’n dylanwadu ac yn gwneud penderfyniadau’n eu deall nhw nac yn malio amdanyn nhw. Gwaethygu wnaeth y teimladau o ddieithrio, apathi a thrallod a deimlwyd eisoes gan lawer o gymunedau. Fe wnaeth atgyfnerthu synnwyr o ddiffyg perthyn, ac unigrwydd, sydd ill dau yn cyfrannu at broblemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae llawer hefyd wedi rhybuddio y gall y teimladau hyn fod yn gysylltiedig â chynnydd mewn achosion o hunanladdiad, hefyd. (Mae’r Samariaid yn cynnig cefnogaeth 24/7 i unrhyw un sy’n cael anhawster – ffoniwch 116 123 am ddim).

Dyma pam mae hi mor bwysig inni greu gwleidyddiaeth a chymdeithas fwy caredig ble mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn werthfawr, ac annog diwylliant o wrando ar bob yn ein gwleidydda.

Dyma pam mae hi mor bwysig inni greu gwleidyddiaeth a chymdeithas fwy caredig ble mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn werthfawr.” Nid yw’r dadleuon dros brisiau ynni a chostau byw wedi bod o gymorth o ran hynny. Yn hytrach na phregethu ar bobl i ‘wisgo siwmper’, mae angen inni annog diwylliant o fewn ein gwleidyddiaeth o wrando ar bobl, gan ganiatáu i’w hofnau a’u safbwyntiau gael eu deall.

Dyna pam hefyd nad ydym eisiau i’r polisi newydd hwn o rewi prisiau ynni gael ei ystyried yn flwch wedi’i dicio neu’n broblem wedi’i datrys pan mae’n gwbl amlwg nad felly mae hi. Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn ymwneud â chynnydd ym mhrisiau bwyd, cyflogau sy’n ddisymud neu’n gostwng, ac sy’n methu cynnal yr un raddfa â chostau hanfodion byw, a thlodi sydd wedi hen ymwreiddio sy’n parhau i fod yn endemig. Mae’r rhain yn achosion allweddol dros iechyd meddwl gwael, sy’n creu amodau byw seicogymdeithasol afiach yn ddiangen i bobl, gan roi mwy fyth o bwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan straen. Byddwn yn ymgyrchu ac yn gweithio gydag eraill, gan wthio i weithio gyda llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i godi ymwybyddiaeth am gostau cuddiedig y pethau cymdeithasol sy’n penderfynu ar gyflwr iechyd meddwl. Ond bwriadwn hefyd wrando a chlywed pryderon pobl, a herio’r ystrydebau negyddol a’r ffyrdd caiff eu pryderon eu diystyru gan y rhai nad ydynt wedi profi gwirionedd syml – nad yw gwisgo siwmper fwy trwchus am eich diogelu rhag gaeaf garw o gwbl.

[1] Seiler, A., Fagundes, C.P., Christian, L.M. (2020). The Impact of Everyday Stressors on the Immune System and Health. In: Choukèr, A. (eds) Stress Challenges and Immunity in Space. Springer, Cham. https://doi.org/10.1007/978-3-030-16996-1_6 The Impact of Everyday Stressors on the Immune System and Health | SpringerLink