Ariannu’r cynllun i ddiddymu digartrefedd
Mae Platfform yn cefnogi galwad Cymorth Cymru a Community Housing Cymru i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gyllideb sydd ar y gorwel ganddynt yn wirioneddol helpu i ddiddymu digartrefedd yng Nghymru. Cefnogwn y Cynllun Gweithredu ar Ddigartrefedd a chroesawn y gwaith a’r ymgynghori eang sydd wedi’i wneud wrth ei ddatblygu. Dyna pam rydym hefyd am weld cyllideb sy’n helpu i roi’r cynllun gweithredu ar waith.
Gall themâu sydd wedi’u hystyried yn llawn ac y mae cyllideb yn canolbwyntio arnynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r tair galwad y mae Cymorth a’r CHC yn eu gwneud yn rhai ystyriol, gyda ffocws, ac yn anelu at gefnogi thema o greu Cymru sy’n diddymu digartrefedd. Dyna alwad a gefnogwn yn llawn ac y gobeithiwn fydd y sector yn uno y tu ôl iddi.
Mae 3 pheth yr hoffai pob un o’n sefydliadau eu gweld yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru:
- Darpariaeth setliad ariannu am o leiaf 3 blynedd sy’n diogelu’r Grant Cymorth Tai mewn termau go iawn.
- Buddsoddi o leiaf £300 miliwn yn y Grant Tai Cymdeithasol yn y flwyddyn nesaf, i gyfanswm o £1.5 biliwn dros y 5 blynedd nesaf.
- Sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn parhau i ddarparu llety argyfwng a chymorth i bawb sy’n profi digartrefedd.
Mae’r rhain yn bwysig i ni am sawl rheswm, ac fe’u trafodwn isod:
Y Grant Cymorth Tai
Y grant hwn sy’n ariannu awdurdodau lleol i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, gan fyw’n annibynnol, neu fyw mewn llety â chymorth. Gwasanaeth ataliol yw hwn yn bennaf, a’i nod yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Atal digartrefedd yw’r peth iawn i’w wneud yn foesol, wrth gwrs; mae’n brofiad trawmatig sy’n achosi problemau iechyd gydol oes. Ond dyma hefyd y peth iawn i’w wneud yn nhermau materion ariannol. Mae’r modelu ariannol a’r dystiolaeth yn dangos ei bod yn costio swm sylweddol is o arian i atal rhywun rhag digartrefedd nag y mae’n ei gostio i ymdrin â chanlyniadau’r ddigartrefedd honno.
Dangosodd ymchwil o Brifysgol Metropolitan Caerdydd bod arbediad o £1.40 yn cael ei gyflawni i wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru am bob £1 a wariwyd ar y Grant Cymorth Tai (sylwer na fyddai hyn yn cynnwys gwariant nas datganolwyd fel yr heddlu a chyfiawnder troseddol). Dylai diogelu’r grant hwn mewn termau real fod yn ddewis cwbl amlwg, a bydd caniatáu setliad ariannu 3 blynedd yn rhoi sefydlogrwydd cyllido i sefydliadau a phrosiectau i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cyflawni ansawdd, heb y pryder parhaus dros gontractau ac ansicrwydd swyddi.
Byddai Platfform hefyd yn mynd ymhellach nag y mae’r ymgyrch yn galw amdano, a hoffem weld cynllunio ariannol hyd yn oed yn fwy hirdymor na 3 blynedd. Mae nifer o gontractau y mae awdurdodau lleol wedi’u comisiynu sy’n parhau’n hwy na 3 blynedd, a hoffem weld trefniadau hwy yn dod yn norm. Rydym am weld diwedd ar delerau tymor byr a chreu newid mwy cynaliadwy a chadarnhaol. Dylid ymddiried mewn darparwyr a chyd-gynhyrchu contractau gydag adnoddau cynaliadwy er mwyn gwreiddio’r ethos o atal pobl rhag mynd yn ddigartref o fewn y system tai go iawn. Yn rhy aml, ein profiad yw bod contractau’n canolbwyntio ar weinyddu ac adrodd ar dasgau, yn hytrach na mesur a monitro’r hyn sy’n bwysig.
Y Grant Tai Cymdeithasol
Y Grant Tai Cymdeithasol yw’r prif grant cyfalaf a ddefnyddir i ariannu adeiladu, ailwampio, neu atgyweirio tai cymdeithasol a fforddiadwy yng Nghymru, boed hynny drwy gyfrwng Awdurdodau Lleol neu Gymdeithasau Tai. Er bod y stoc tai cymdeithasol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, y nifer flynyddol o gartrefi newydd a gwblheir yn y sector tai cymdeithasol yw oddeutu 1,200. Yn 2016, amcangyfrifodd Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus Cymru fod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau newydd bob blwyddyn yn y sector cymdeithasol i gwrdd â’r galw a amcangyfrifir dros y ddegawd nesaf. Bron i 3 gwaith yr hyn sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd.
Dyma pam rydym yn cefnogi’r galw i gynyddu’r gyllideb. Caiff y gyllideb ei dosbarthu fel un gwariant ‘cyfalaf’ ac mae’n ddelfrydol ar gyfer ariannu drwy fenthyca – felly ni fydd cynyddu’r gyllideb hon yn galw am wneud toriadau i wasanaethau rheng flaen eraill. Bydd hefyd yn creu enillion uniongyrchol yn nhermau rhent, ac yn cynorthwyo’n sylweddol wrth helpu i gwrdd ag amcanion eraill fel darparu model tai yn gyntaf o fewn y system ddigartrefedd.
Sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn parhau i ddarparu llety argyfwng
Yn ystod y pandemig, roedd mwy o ffocws ar gael pobl oddi wrth sefyllfaoedd cysgu allan ac i mewn i lety argyfwng. Roedd hyn i raddau helaeth o ganlyniad i’r sefyllfa argyfwng yn clirio’r rhwystrau a’r prosesau biwrocrataidd arferol a oedd wedi atal lletya’r rhai sy’n cysgu allan cyn hynny. Fodd bynnag, mae’r momentwm a’r cydweithredu cychwynnol a oedd yn nodweddiadol o’r ymdrechion cynnar hynny wedi dirywio, gyda rhai gwasanaethau’n troi’n ôl i’w hymddygiad blaenorol. Felly, credwn ei bod yn hollbwysig fod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau i sicrhau bod arian ar gael i ddarparu llety argyfwng – fel rhan o’r broses o newid i’r model tai yn gyntaf a gefnogwn.
Yn ogystal â chyllidebau, mae arnom angen gweithio mewn partneriaeth go iawn law yn llaw ag adnoddau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae angen hefyd inni herio’r loteri cod post sy’n golygu fod pobl yn gymwys am gefnogaeth mewn rhai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill, a newid y system i sicrhau bod pawb yn cael ei drin fel unigolyn a bod ganddynt hawl i gymorth. Bydd yn cymryd mwy na chyllidebau’n unig i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Ond drwy sicrhau bod 3 galwad yr ymgyrch yn cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, gallwn barhau â gwaith cadarnhaol y blynyddoedd diweddar o newid ein system ddigartrefedd.